Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (15) v5 |
1. Teyrnged i Lowyr y Gleision |
2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Pwll y Gleision (45 munud) |
3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) |
4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyngor Sir Penfro (45 munud) |
6. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2011 - wedi'i ohirio (15 munud) |
7. Dadl ar Wasanaethau Mamolaeth (60 munud) NDM4796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried dull Llywodraeth Cymru o wella
gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru; ac 2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu:
a) y dylai gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru gael eu trefnu i ddiwallu anghenion menywod a'u babanod;
b) y dylai popeth posibl gael ei wneud i ddiogelu a gwella iechyd menywod a'u babanod; ac
c) y dylai beichiogrwydd a geni plant fod yn brofiad diogel sy'n gwella ac yn cyfoethogi bywyd.
Dogfen Ategol Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru: ac Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: Y byddai llai o gyfleoedd i gael Gwasanaethau Mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn arwain at fwy o risg i famau a babanod. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y pryder sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu darpariaeth gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn ysbytai cyffredinol dosbarth yn y Gogledd. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd gwledig. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai yn Lloegr. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw llefydd ar gyfer hyfforddiant bydwreigiaeth yng Nghymru, er mwyn darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun cyflenwi terfynol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth er mwyn ei drafod, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun terfynol ar sut y bydd yn gweithredu ei gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, yn cynnwys nodau clir a chanlyniadau mesuradwy, er mwyn ei drafod. Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Amlinellu’r ffordd y mae’n bwriadu dal
Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif a’r mesurau y bydd yn eu cymryd
i sicrhau bod BILl yn cyrraedd targedau mamolaeth yn y dyfodol;
a |
Cyfnod pleidleisio |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 21 Medi 2011